Siân Gwenllïan
Mae Aelod Cynulliad newydd Arfon wedi dweud wrth golwg360 bod ei llwyddiant yn “fuddugoliaeth i ferched canol oed yng Nghymru”.

Fe lwyddodd Siân Gwenllïan i gadw sedd Arfon i Blaid Cymru gyda mwyafrif swmpus o 4,162 o bleidleisiau.

“Does dim llawer o ferched canol oed ym mywyd gwleidyddol Cymru nac ym mywyd cyhoeddus Cymru, ac un o’r rhesymau penderfynais redeg fel Aelod Cynulliad oedd er mwyn rhoi llais i ferched canol oed a chodi eu hyder,” meddai.

Ac mae Siân Gwenllïan, sy’n olynu Alun Ffred Jones yn Aelod Cynulliad Arfon, yn dweud nad oes peryg y bydd y blaid yn bodloni ar y fuddugoliaeth felys gafodd Leanne Wood yn y Rhondda.

“Canolbwyntio ar y fuddugoliaeth honna ydy’r peth i ni wneud yn yr oriau yma rŵan,” meddai.

“Mi rydan ni’n blaid Gymru gyfan wrth gwrs, ac mae hi’n bwysig adeiladu ar ein llwyddiant ni yn rhai o’r etholaethau eraill.

“Mae’r hadau yna i’w hadeiladu ar gyfer y dyfodol rŵan ac mi wnawn ni gario ymlaen. Megis dechrau ar y gwaith ydan ni.”

Siôn Jones “mor falch”

Mae ymgeisydd Llafur Arfon wedi dweud wrth golwg360 ei fod “mor falch” bod yr ymgyrch etholiadol drosodd.

Ond mae Siôn Jones yn hapus iddo gynyddu fôt Llafur i 6,800 – 4,630 o bleidleisiau gafodd y blaid yn ethgoliad 2011.

“Wnaethon ni gynyddu’r bleidlais yn sylweddol, a dw i mor falch ein bod ni wedi gwneud hynny,” meddai.

Bu i 50% o bobl Arfon fwrw pleidlais, a dywedodd Siôn Jones: “Dw i’n credu bod pleidlais Plaid Cymru, o ystyried y turnout, wedi mynd i lawr, ac mae hynny’n rhywbeth braf.”

Dywedodd ei fod yn “gobeithio cael rôl” o fewn y Blaid Lafur o fewn yr wythnosau nesaf. Ond nid oedd yn gallu cadarnhau pa fath o rôl fyddai honno.

UKIP – ‘cam yn ôl i’r Cynulliad’

Wrth drafod effaith y pum Aelod Cynulliad newydd UKIP ar wleidyddiaeth yng Nghymru, dywedodd Siân Gwenllian fod eu buddugoliaethau yn “gam yn ôl”.

“Newyddion siomedig iawn y noson ydy fod UKIP rŵan efo troedle yng Nghymru,” meddai AC Arfon.

“Dw i’n credu eu bod nhw’n defnyddio Cymru fel llwyfan ar gyfer eu hamcanion nhw ynghylch Ewrop a mewnfudo, a bod nhw ddim wir yn poeni am Gymru.

“Yn anffodus, dw i’n meddwl bod hyn yn gam yn ôl i’r Cynulliad, yn gam yn ôl i wleidyddiaeth progressive.”