Andrew RT Davies
Mae dau Dori amlwg wedi dal gafael yn eu seddi ar restr rhanbarthol Canol De Cymru – canlyniad olaf etholiadau’r Cynulliad eleni.
Roedd rhai wedi ofni y byddai’r ddau yn colli yn dilyn pleidlais ddoe, ac fe fyddai hynny wedi golygu bod y Ceidwadwyr wedi colli eu harweinydd yn y Bae.
Ond mae Andrew RT Davies wedi dal gafael yn ei sedd, a felly hefyd David Melding y Tori sy’n boblogaidd ar draws y pleidiau gwleidyddol ac yn cael ei ystyried yn feddyliwr craff.
Hefyd wedi ei ethol ar restr Canol De Cymru mae Neil McEvoy, cynghorydd Plaid Cymru o Gaerdydd wnaeth yn dda wrth sefyll yn erbyn Mark Drakeford yn etholaeth Gorllewin Caerdydd gan lwyddo i ostwng mwyafrif y Llafurwr o 5, 901 i 1,176.
Yn wir fe ddyblodd Neil McEvoy nifer y pleidleisiau a gafodd yn yr etholiad – o 5,551 yn 2011 i 10,205 y tro hwn.
Hefyd etholwyd Gareth Bennett o UKIP ar restr Canol De Cymru.
Andrew RT “yn falch”
Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi ennill 11 sedd – tair yn llai nag yn etholiad 2011.
Ond mae’r Arweinydd Andrew RT Davies yn falch o ddal gafael yn ei sedd ac yn dweud ei bod yn fraint enfawr cael ei ethol eto.
“Rwy’n falch ein bod ni wedi ymladd ymgyrch bositif a deniadol, gydag ymgeiswyr rhagorol ar draws y wlad,” meddai.
“Ar ben hynny, ynghyd â’m cydweithiwr a chyfaill David Melding, mae’n fraint enfawr cael ein ethol i wasanaethu pobl Canol De Cymru unwaith eto.
“Yn y cyfnod newydd o wleidyddiaeth pum plaid, rydym wedi cryfhau ein safleoedd mewn nifer o seddi buddugol.
“Yn amlwg, rydym yn siomedig i golli rhywfaint o seddi rhestr ranbarthol yn yr etholiad hwn, ac yr wyf yn talu teyrnged i’r Aelodau hynny sydd wedi cynrychioli eu hardaloedd gyda chlod a balchder.
“Wrth i ni ddadansoddi effaith y canlyniadau ar Gymru, mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn parhau i fod yn ymrwymedig i gyflawni ar gyfer cymunedau ar draws y wlad.”