Old Bailey
Mae glaslanc sydd wedi ei alw’n “anghenfil” wedi iddo drywanu dau ddieithryn yn farw, a hynny am ei fod yn eilun addoli’r ddau lofrudd drwg enwog Ted Bundy a’r Yorkshire Ripper, wedi ei garcharu am 27 o flynyddoedd.

15 oed oedd James Fairweather pan laddodd James Attfield, ac yna Nahid Almanea dri mis yn ddiweddarach yn Essex.

Bu iddo ymosod ar hap ar bobol nad oedd yn eu hadnabod, a hynny mewn modd “sadistaidd a chiaidd” yn ôl y Barnwr Mr Spencer yn yr Old Bailey.

Bu iddo drywanu James Attfield 102 o weithiau wrth iddo orwedd yn feddw ac yn ddiamddiffyn mewn parc yn Colchester yn 2014.

Fe gafodd Nahid Almanea ei sdabio yn ei dwy lygad tra’n cerdded ar ei phen ei hun yng ngolau dydd.

Roedd James Fairweather wedi cnocio sbectol haul Nahid Almanea “yn fwriadol” er mwyn gallu trywanu ei llygaid fel yr oedd Peter Sutcliffe y Yorkshire Ripper wedi gwneud.

Ac yntau’n 17 oed, fe gafodd James Fairweather ei ddedfrydu i 27 mlynedd dan glo.

Wrth iddo gael ei arwain o’r doc roedd i’w weld yn dweud “I don’t give a sh**” wrth ei rieni.