Mae nifer y dysgwyr Cymraeg sydd wedi cofrestru ar gwrs newydd ar y We wedi cyrraedd 100,000 er ei sefydlu, a hynny dri mis yn ôl.
Mae’r platfform ar-lein ac ap ffôn rhyngwladol ‘Duolingo’ yn adnodd addysg am ddim, sydd â dros 27 o ieithoedd wedi’u cofrestru arno.
Ers tri mis, mae’r cwrs Cymraeg wedi mynd o nerth i nerth, gyda’r cyfranwyr yn dweud bod cyrraedd 100,000 yn “dipyn o gamp”.
“Roeddwn i’n disgwyl cyrraedd 100,000 rhywbryd, ond doeddwn ddim yn disgwyl cyrraedd y nod yna mewn cyn lleied o amser,” meddai un a sefydlodd y cwrs, Richard Morse wrth golwg360.
Mae tua 20% o ddefnyddwyr Duolingo yn dod o’r Unol Daleithiau, 10% o Brydain ac eraill o wledydd ar draws y byd.
10,000 o oriau o waith
Bu ymgyrch am rhyw saith mis i sefydlu’r cwrs sydd wedi’i gymeradwyo gan Duolingo, gyda grŵp o wyth gwirfoddolwr wedi mynd ati i’w greu.
“Dw i wedi amcangyfrif fod [y gwaith o greu’r cwrs] wedi cymryd 10,000 o oriau i gyd!” meddai Richard Morse.
“Fe wnes i gynllunio amlinelliad o’r cwrs, ac ar ôl hynny oedd pobol eraill yn cyfrannu.”
Mae’r adnodd yn parhau i gael ei ddatblygu, gyda’r cam nesaf yn cynnwys “pob math o dafodieithoedd” y Gymraeg.