Nigel Farage (Llun y blaid)
Mae’r Blaid Lafur yn defnyddio ymdeimlad o wrthwynebu Israel er mwyn ceisio cael “holl bleidleisiau Mwslimaidd y wlad”, yn ôl Nigel Farage.
Honnodd arweinydd UKIP fod dinas Bradford bellach yn ymdebygu i Ogledd Iwerddon, cymaint oedd y rhaniadau gwleidyddol a sectyddol yno.
Yn ôl Nigel Farage, mae beirniadaeth o bolisïau gwladwriaeth Israel weithiau’n cael ei ddefnyddio “i gysgodi” agweddau gwrth-Semitaidd.
Hefyd bu’n beirniadu AS Gorllewin Bradford, Naz Shah, ar ôl iddi hi gael ei gwahardd gan y Blaid Lafur am sylwadau sarhaus ar wefannau cymdeithasol yn y gorffennol.
Rhaniadau gwleidyddol
“Gadewch i ni fod yn onest, mae’r rhaniad Israel a Phalestina wastad wedi bod yn fater Chwith/Dde o fewn gwleidyddiaeth,” meddai Farage wrth orsaf radio LBC.
“Mae’r Chwith wastad wedi bod mor gryf o blaid Palestina fel bod llawer ohonyn nhw yn credu na ddylai gwladwriaeth Israel fodoli hyd yn oed.
“Ond dw i’n teimlo fel bod hynny’n arwain weithiau at y gair Israel yn cael ei ddefnyddio i gysgodi math o wrth-Semitiaeth.”
‘Mynd ar ôl pleidleisiau’
Dywedodd arweinydd UKIP bod “cefnogaeth i safbwyntiau gwrth-Israel” yn gysylltiedig â thwf yn y bleidlais Fwslimaidd mewn ardaloedd fel Bradford yng ngogledd Lloegr.
“Beth sydd gennych chi yn Bradford yw gwleidyddiaeth sectyddol a dw i’n casáu hynny achos os ydyn ni’n meddwl am rannau eraill o Brydain sydd wedi dioddef o hynny,” meddai.
“Meddyliwch am Ogledd Iwerddon gyda’r Protestaniaid yn erbyn y Catholigion, ac edrychwch ble aeth hynny â ni.
“Felly dw i’n poeni’n fawr fod chwith y Blaid Lafur wastad wedi bod â’r safbwyntiau yma. Maen nhw nawr yn cysylltu hynny mewn ymgais fyrbwyll i geisio cael holl bleidleisiau Mwslimaidd y wlad, a dw i’n meddwl ein bod ni mewn lle gwael.”