Mae actores o Gymru yn chwarae un o’r prif rannau mewn cyfres deledu sydd wedi ei henwebu am wobr EMMY yn America.
Gyda’r seremoni fawreddog yn Los Angeles heno, lle fydd enwogion fel Ellen DeGeneres a Steve Harvey hefyd yn gobeithio cael gwobr am eu gwaith teledu, dywedodd Gwenfair Vaughan wrth golwg360 fod yr enwebiad wedi bod yn “syrpreis bach hyfryd”.
Mae’r actors, sy’n wreiddiol o Fethesda ond bellach yn byw yn Efrog Newydd ers 12 mlynedd, yn lleisio cymeriad ‘Mrs. Tiggywinkle’ yng nghartŵn Nickelodeon o Peter Rabbit.
Mae’r addasiad o lyfrau Beatrix Potter, sydd i’w gweld ar deledu yn yr Unol Daleithiau, Prydain ac Awstralia, wedi cael ei enwebu ar gyfer y wobr ‘Outstanding Special Class Animated Programme’.
Wrth sôn am ei chymeriad, dywedodd Gwenfair Vaughan: “Roedd Mrs. Tiggywinkle wedi mopio achos mae’n barod yn eicon llenyddol, mae’n celebrity ar y teledu ac mae methu disgwyl i gael Emmy – ond dw i wedi dweud wrthi bydd yn rhaid iddi fod yn ofalus rhag i’w phen hi chwyddo!”
Ychwanegodd fod yr enwebiad “yn bwysig ar sawl lefel, oherwydd mae o i’w wneud efo noddi’n ariannol a chael ail-gomisiwn ac mae’n helpu ar gyfer parhau i werthu rhaglenni tramor”.
“Dw i’n cael gwneud pethau gwirion”
Gwenfair Vaughan oedd y gyntaf i gael ei chastio yn Peter Rabbit yn 2012, ac mae wedi cael blas gar war leisio ‘Mrs Tiggywinkle’, y draenog bach doniol o Swydd Gaerhirfryn.
“Dw i’n cael gwneud pethau gwirion achos mai cymeriad doniol ydy hi… dw i’n cael gwneud fel yr ydw i eisiau, o ran y portreadu a chymeriadu, ac mae’r animeiddwyr yn dylunio o gwmpas be dw i wedi’i greu.”
Gwaith yng Nghymru
Efallai y bydd rhai yn cofio Gwenfair Vaughan o’i chyfnod ar sgriniau teledu Cymru, yn chwarae cymeriad ‘Leanne Prys’ yn Pobol y Cwm a ‘Hannah Jones’ yn y ddrama cyfnod, Y Palmant Aur, sy’n cael ei ail-ddangos ar S4C ar hyn o bryd.
Dywedodd wrth golwg360 y byddai wrth ei bodd yn dod yn ôl i Gymru i weithio yn y Gymraeg eto.