David Crompton, Prif Weithredwr Heddlu De Swydd Efrog
Mae Prif Gwnstabl Heddlu De Swydd Efrog wedi cael ei ddiarddel o’i waith o ganlyniad i reithfarn y cwest i drychineb Hillsborough.
Ar ôl i reithgor yn Warrington ddod i’r casgliad bod 96 o gefnogwyr Lerpwl wedi marw’n anghyfreithlon yn 1989, cyfaddefodd David Crompton fod ymateb yr heddlu’n “gatastroffig o anghywir”.
Ychwanegodd ei fod yn derbyn y rheithfarn “yn ddigamsyniol”.
Dywedodd Comisiynydd Heddlu De Swydd Efrog, Dr Alan Billings nad oedd ganddo ddewis ond diarddel Crompton o’i waith “ar sail chwalu ymddiriedaeth a hyder y cyhoedd”.
Daw’r cyhoeddiad ar ôl i’r Aelod Seneddol Llafur, Andy Burnham, sy’n cynrychioli etholaeth Leigh yng Nglannau Mersi, alw am “atebolrwydd”.
Roedd wedi cyhuddo’r heddlu o gelu ffeithiau ac o fagu perthynas gyda’r wasg mewn ymgais i bardduo cefnogwyr.
Roedd hefyd wedi galw am adolygu’r system gyfiawnder yn sgil y gwrandawiad oedd wedi para dwy flynedd.