Jeremy Corbyn Llun: PA
Mae’r Aelod Seneddol Llafur tros Orllewin Bradford, Naz Shah wedi cael ei diarddel o’r blaid wrth i ymchwiliad gael ei gynnal i negeseuon gwrth-Semitig ar wefannau cymdeithasol.
Roedd pwysau wedi bod ar arweinydd y blaid, Jeremy Corbyn i’w diarddel o’i swydd yn sgil y sylwadau a gafodd eu gwneud cyn iddi gael ei hethol yn 2015.
Wrth gynnig eglurhad ac ymddiheuriad i Dŷ’r Cyffredin yn gynharach heddiw, dywedodd Shah ei bod hi’n difaru’r sylwadau a’i bod hi wedi dysgu gwersi o’r profiad.
Roedd Prif Weinidog Prydain, David Cameron eisoes wedi dweud ei bod yn “rhyfeddol” nad oedd hi wedi cael ei chosbi gan y blaid.
Cerydd
Cafodd Shah gerydd gan Corbyn a ddywedodd wrthi fod y sylwadau yn “annerbyniol ac yn sarhaus” a phenderfynodd hi ymddiswyddo fel cynorthwyydd i John McDonnell yn sgil ei hymddygiad.
Yn 2014, roedd Shah wedi postio llun dychanol ar Facebook oedd yn awgrymu y dylid symud Israel i’r Unol Daleithiau fel ateb i’r anghydfod rhwng Israel a Phalestina.
Tynnodd gwefan Guido Fawkes sylw hefyd at bostiad blaenorol ganddi oedd yn defnyddio’r hashnod #IsraelApartheid uwchben sylw oedd yn dweud bod ymddygiad Hitler yn yr Almaen yn gyfreithlon.
Wrth ymateb i’r ffrae ddiweddaraf, dywedodd Cameron fod “gwrth-Semitiaeth yn hiliaeth”.