Y 96 o gefnogwyr pel-droed gafodd eu lladd yn Hillsborough
Cafodd y 96 o gefnogwyr pêl-droed Lerpwl fu farw yn nhrychineb Hillsborough eu lladd yn anghyfreithlon, cyhoeddodd rheithgor y bore ma.

Daeth y rheithgor i’r casgliad bod y cefnogwyr wedi’u lladd yn anghyfreithlon o fwyafrif o 7-2 a bod yna “esgeulustod difrifol” ar ran y Prif Uwch-arolygydd ar y pryd, David Duckenfield.

Roedd methiannau ar ran yr heddlu a’r gwasanaeth ambiwlans wedi “achosi neu gyfrannu” at y trychineb, meddai’r rheithgor.

Mae’r rheithgor o chwe dynes a thri dyn hefyd wedi dod i’r casgliad nad oedd ymddygiad y cefnogwyr wedi achosi neu gyfrannu at y drasiedi.

Penderfynodd y rheithgor hefyd bod:

  • “Diffygion sylweddol” yng nghynlluniau a threfniadau’r heddlu ar gyfer y gêm;
  • Ymateb yr heddlu i’r cynnydd yn nifer y dorf yn Leppings Lane wedi bod yn “araf ac yn anhrefnus;”
  • Camgymeriadau gan brif swyddogion wedi cyfrannu at y wasgfa ar y teras;
  • Prif swyddogion heb sylweddoli bod y safleoedd yn llawn;
  • Y rhwystrau yn safle tri a phedwar ddim yn cydymffurfio a rheolau diogelwch;
  • Swyddogion ambiwlans heb sylweddoli maint y broblem a bod methiant i gyhoeddi ei fod yn ddigwyddiad o bwys wedi arwain at oedi yn yr ymatebion i’r argyfwng;
  • Diffyg cyfathrebu a chydweithredu gan yr heddlu.

Cafodd y penderfyniad ei groesawu gan deuluoedd y rhai fu farw a oedd yn y llys yn Warrington ar gyfer y gwrandawiad ac mae na olygfeydd emosiynol wedi bod y tu allan i’r llys heddiw. Dywedodd cyfreithwyr ar eu rhan bod y dyfarniad yn dod a diwedd i 27 mlynedd o frwydro am gyfiawnder.

Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron (CPS) hefyd wedi cyhoeddi y bydd yn ystyried a fydd unrhyw gyhuddiadau troseddol yn cael eu dwyn.

Mae disgwyl i’r Ysgrifennydd Cartref Theresa May nodi casgliadau’r cwest mewn datganiad ysgrifenedig yn y Senedd heddiw, cyn cyhoeddi ymateb y Llywodraeth mewn datganiad i Aelodau Seneddol ddydd Mercher, meddai Downing Street.

Cefndir

Mae’r gwrandawiadau wedi cael eu cynnal ers mwy na dwy flynedd, ac mae’r rheithgor wedi clywed tystiolaeth gan oddeutu 1,000 o lygad-dystion.

Mae’r rheithgor wedi bod yn ystyried eu dyfarniad ers 6 Ebrill a heddiw bu’n cyhoeddi eu penderfyniad terfynol i gwestiynau ynglŷn â threfniadau’r heddlu cyn y gêm, y diogelwch yn y stadiwm, y digwyddiadau ar y diwrnod, ymateb y gwasanaeth brys i’r trychineb, ac a gafodd y cefnogwyr eu lladd yn anghyfreithlon.

Fe ddigwyddodd y trychineb yn ystod gem Cwpan FA rhwng Lerpwl a Nottingham Forest ar 15 Ebrill 1989 wrth i filoedd o gefnogwyr gael eu gwasgu ar deras Leppings Lane.

Y Prif Uwch-arolygydd ar y pryd, David Duckenfield oedd wedi rhoi’r gorchymyn am 2.53yp i agor allanfa Giât C yn Leppings Lane, gan ganiatáu i 2,000 o gefnogwyr fynd i mewn i’r safle y tu ôl i’r gôl, a oedd eisoes dan ei sang.

Cafodd rheithfarnau o farwolaethau damweiniol a gofnodwyd yn y cwestau gwreiddiol yn 1991 eu diddymu yn dilyn adroddiad gan Banel Annibynnol Hillsborough yn 2012 ar ôl ymgyrch hir gan y teuluoedd. Daeth y panel i’r casgliad bod y gwirionedd wedi cael ei gelu mewn ymdrech gan yr heddlu ac eraill i osgoi cymryd cyfrifoldeb am yr hyn ddigwyddodd.

Roedd dau o Gymru ymhlith y 96 fu farw – John McBrien, 18, o Dreffynnon, Sir y Fflint a David Steven Brown, 25, o Holt, ger Wrecsam.

Ymateb ar Twitter 

Dyma rai o’r ymatebion ar Twitter ers cyhoeddi’r dyfarniad: