Glyn Wise
Mae ymgeisydd Plaid Cymru dros Ganol Caerdydd wedi dweud wrth golwg360 ei fod yn benderfynol o ennill ei le fel Aelod Cynulliad yn yr etholiadau ymhen wythnos.
Dywedodd Glyn Wise, y cyn-gystadleuydd Big Brother, ei fod am fynd “all guns blazing” am y safle cyntaf yn yr etholaeth.
Ond gyda’r polau piniwn yn awgrymu ei bod yn ras agos rhwng yr AC presennol, Jenny Rathbone o Lafur ac Eluned Parrott o’r Democratiaid Rhyddfrydol, digon teg yw dadlau nad yw rhagolygon Plaid Cymru yn y ras yn edrych yn rhy obeithiol.
Dim o gwbl medd Glyn Wise, sy’n dweud ei fod yn “obaith realistig” ennill y sedd a dod yn Aelod Cynulliad.
“Dwi’n athletwr a bob troi dwi’n rhedeg y 400 medr dwi byth yn mynd ar y trac er mwyn dod yn olaf – os dwi’n mynd yno, dwi’n mynd all guns blazing,” meddai.
‘Llais i bobl ifanc’
Roedd yn mynnu bod ymgyrchu yng nghanol y ddinas wedi bod yn “wych”, a bod pobol wedi cael digon o’r llywodraeth Lafur bresennol.
“Mae pobol yn fed up gyda’r holl amser mae Llafur wedi bod (mewn grym), lle rydan ni (Cymru) wedi dod yn olaf ym maes addysg ac iechyd. Mae angen newid.
“Mae gennyf i’r angerdd i wneud canol Caerdydd yn lle gwell i fyw.”
Roedd yn siarad â golwg360, wrth i Blaid Cymru lansio ei maniffesto i blant a phobol ifanc, sy’n cynnwys polisïau fel gwahardd taro plant, sefydlu Senedd Ieuenctid a gostwng yr oedran pleidleisio i 16 oed.
Y nod yw, meddai Glyn Wise, “rhoi llais i bobol ifanc.”
“Os ydyn ni’n gallu priodi, cael plant, talu trethi a mynd i ryfel (pan yn 16 oed), wedyn wrth gwrs, dylai’r oedran pleidleisio ddod i lawr i 16.”
Yn ôl Plaid Cymru, mae ei pholisïau yn sicrhau bod plant yn cael cefnogaeth “o’r crud i’r yrfa”, ac mae am fuddsoddi mewn addysg a chreu cyfleoedd prentisiaethau i bobol ifanc.
Diffyg diddordeb pobol ifanc
Ond sut mae annog pobol ifanc i ddangos diddordeb mewn gwleidyddiaeth, pan fo cymaint o’r boblogaeth wedi’u dadrithio gan wleidyddiaeth yn gyffredinol?
Un rheswm dros y diffyg diddordeb, meddai Glyn Wise, yw bod pobol wedi cael digon “â hen ddynion mewn siwtiau llwyd.”
“Beth maen nhw isio yw lleisio barn mewn ffordd lle mae llai o jargon academaidd, lle mae pobol yn gallu deall be mae’r gwleidyddion yn siarad amdano,” meddai.
A’r lle cyntaf i ddechrau yw yn yr ysgol, yn ôl yr ymgeisydd, sy’n credu bod angen addysgu plant i ddeall gwleidyddiaeth.
Rhestr lawn o ymgeiswyr Canol Caerdydd
Jane Croad (Annibynnol)
Mohammed Sarul Islam (UKIP)
Eluned Parrott (Democratiaid Rhyddfrydol)
Jenny Rathbone (Llafur)
Joel Williams (Ceidwadwyr)
Glyn Thomas Wise (Plaid Cymru)
Amelia Womack (Y Blaid Werdd)
Mae etholiadau’r Cynulliad yn digwydd ar 5 Mai.