Siop BHS
Mae disgwyl cadarnhad heddiw y bydd cwmni BHS yn mynd i ddwylo’r gweinyddwyr, gan olygu bod 11,000 o swyddi yn y fantol.

Yn sgil adroddiadau y gallai BHS gael ei roi yn nwylo’r gweinyddwyr dywedodd llefarydd bod disgwyl datganiad “am ddyfodol BHS” heddiw. Nid oedd am roi rhagor o fanylion.

Mae siopau British Home Stores wedi bod yn bresenoldeb ar y stryd fawr ers 88 mlynedd.

Petai’n mynd i ddwylo’r gweinyddwyr heddiw fe fyddai’n un o’r methiannau mwyaf ar y stryd fawr ers i Woolworths fynd i’r wal yn 2008 gyda bron i 30,000 yn colli eu swyddi.

Mae Sports Direct wedi bod mewn trafodaethau  i brynu rhai o 164 o siopau BHS ond, yn ôl y BBC, fe fyddai’n eu prynu ar yr amod na fyddai’n gorfod cymryd cyfrifoldeb am ddiffyg pensiwn o £571 miliwn.

Mae’r siopau, sy’n wynebu dillad a nwyddau fforddiadwy i’r cartref, wedi wynebu cystadleuaeth gan siopau ar-lein a siopau dillad fel Primark.

Roedd y dyn busnes Syr Philip Green, sy’n berchen Topshop, werthu BHS y llynedd am £1.

Ddydd Gwener, roedd datganiad ar wefan BHS yn dweud “er gwaethaf adroddiadau yn y wasg, nid yw BHS wedi mynd i ddwylo’r gweinyddwyr nac wedi gwneud cais i wneud hynny.”

Ychwanegodd bod y wefan yn gweithredu yn ôl yr arfer ac yn derbyn archebion.