Arlywydd Iwerddon, Michael D. Higgins yn cymryd rhan yn y digwyddiadau ddydd Sul
Mae dwsinau o ddigwyddiadau’n cael eu cynnal ym mhob cwr o Iwerddon heddiw i nodi can mlynedd ers Gwrthryfel y Pasg yn Nulyn.

Cafodd y digwyddiadau cenedlaethol swyddogol eu cynnal dros benwythnos y Pasg eleni, gan ddenu 70,000 o bobol i ganol dinas Dulyn.
Ond mae nifer o drefi’n cynnal digwyddiadau ddydd Sul, ar yr union ddyddiad y digwyddodd y Gwrthryfel.

Cafodd gwasanaeth swyddogol ei gynnal y bore ma yn Arbour Hill, ynghyd â gwasanaeth aml-ffydd ac Offeren, wrth i Arlywydd Iwerddon, Michael D. Higgins ymweld â beddau’r 14 o arweinwyr a gafodd eu lladd yn y gyflafan.

Yn ystod y prynhawn, mae gorymdaith yn gorffen ger Swyddfa’r Post yn Nulyn, lle bydd gŵyl yn cael ei chynnal.

Byd cymdeithas y GAA – y campau Gwyddelig – yn cynnal digwyddiad arbennig yn Croke Park i ddathlu hunaniaeth y Gwyddelod.