Marine Le Pen yn cefnogi 'Brexit'
Mae’r alwad gan ymgyrchwyr o blaid gadael yr Undeb Ewropeaidd i wahardd arweinydd y Front National yn Ffrainc, Marine Le Pen rhag dod i Brydain yn profi bod Llywodraeth Prydain yn rheoli ffiniau, meddai Theresa May.

Ar raglen Andrew Marr y BBC, ymatebodd Ysgrifennydd Cartref San Steffan i’r alwad gan gadeirydd Vote Leave, Gisela Stuart ar iddi wahardd Le Pen o wledydd Prydain.

Yn ôl Stuart, mae Le Pen yn lledaenu neges “sy’n rhannu ac sy’n ymfflamychol” a byddai ei phresenoldeb yng ngwledydd Prydain yn “groes i les y cyhoedd”.

Mae lle i gredu bod Le Pen yn bwriadu teithio i Brydain cyn y refferendwm ar Fehefin 23 er mwyn datgan ei chefnogaeth i’r ymgyrch dros adael yr Undeb Ewropeaidd.

Mae’r Front National yn awyddus i gynnal refferendwm tebyg yn Ffrainc.

Dywedodd arweinydd UKIP, Nigel Farage wrth Sky News na fyddai ymyrraeth Le Pen yn gwneud lles i’r achos, ond fe ddywedodd ei fod yn gwrthwynebu’r ymdrechion i’w gwahardd hi rhag dod i wledydd Prydain.