Craig Roberts, Edward Maher a James Dunsby wedi marw yn ystod ymarferiad ym Mannau Brycheiniog
Dylid fod yn gallu erlyn y Weinyddiaeth Amddiffyn am ddynladdiad corfforaethol os yw milwyr yn marw wrth hyfforddi, yn ôl un o bwyllgorau San Steffan.
Yn ôl Pwyllgor Amddiffyn Tŷ’r Cyffredin, “dydy bywydau milwyr presennol ddim yn werth llai na bywydau pobol gyffredin a dylai fod y sawl sy’n gyfrifol am eu marwolaethau fod yr un mor gyfrifol yn ôl y gyfraith.”
Mae 135 o aelodau’r lluoedd arfog wedi marw wrth hyfforddi ers 2000.
Roedd y Gweithgor Iechyd a Diogelwch wedi cosbi’r Weinyddiaeth Amddiffyn yn y modd cryfaf sydd ar gael iddyn nhw mewn 11 o achosion.
Dywed y pwyllgor y dylid addasu Deddf Dynladdiad a Lladdiad 2007 er mwyn erlyn y Weinyddiaeth Amddiffyn os ydyn nhw’n derbyn y gosb lymaf sydd ar gael.
Dylid hefyd ddiddymu’r eithriad ar y Lluoedd Arbennig mewn achosion o “esgeulustod eithriadol”.
Bannau Brycheiniog
Daw’r adroddiad flwyddyn ar ôl cwest i farwolaeth tri o filwyr yn y Bannau Brycheiniog wrth iddyn nhw gyflawni ymarferiad hyfforddi’r SAS.
Un o argymhellion y pwyllgor yw y dylai hyfforddiant roi sylw teilwng i’r gwahaniaeth rhwng milwyr wrth gefn a phersonel cyffredin llawn amser.
Ond fe ddywedodd y pwyllgor fod angen gwneud mwy er mwyn osgoi marwolaethau milwyr wrth hyfforddi.
Rhybuddiodd y pwyllgor y gallai’r cyhoedd daeru nad yw’r lluoedd arfog yn cymryd eu cyfrifoldebau o ddifri.
Dywedodd llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Amddiffyn fod diogelwch milwyr yn “flaenoriaeth lwyr”, a’u bod yn “gwerthfawrogi cydnabyddiaeth y pwyllgor” o ddifrifoldeb y sefyllfa.