Mae ditectifs wedi arestio dyn ar amheuaeth o lofruddio bachgen chwech oed mwy na 20 mlynedd yn ôl.
Roedd Rikki Neave wedi’i weld diwethaf yn gadael ei gartref ar stad dai yn Nhrebedr (Peterborough) i fynd i’r ysgol ar 28 Tachwedd 1994.
Cafwyd hyd i’w gorff noeth mewn coedwig gerllaw ar y diwrnod canlynol, gydag archwiliad post-mortem yn dangos iddo gael ei dagu.
Mewn datganiad, dywedodd Heddlu Swydd Gaergrawnt ei fod wedi arestio dyn yn ei 30au o Drebedr ar amheuaeth o lofruddiaeth.
Dywedodd llefarydd ei fod yn cael ei gadw yn y ddalfa yn yr orsaf yn Swydd Gaergrawnt.
Ail-agor ymchwiliad
Cafodd mam Rikki, Ruth Neave, sy’n 45 erbyn hyn, ei chyhuddo o’i lofruddio ar y pryd ond fe’i cafwyd yn ddieuog gan reithgor.
Roedd wedi pledio’n euog i greulondeb ac esgeuluso ei phlentyn, a chafodd ei dedfrydu i saith mlynedd yn y carchar.
Yn ystod blynyddoedd diweddar, mae wedi ymgyrchu i gael Heddlu Swydd Gaergrawnt i ail-agor yr ymchwiliad i’r achos, gan ddweud bod ei lofrudd yn dal i fod a’i draed yn rhydd.
Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth am farwolaeth Rikki Neave gysylltu â’r heddlu ar 01480 425882, neu drwy Daclo’r Taclau yn anhysbys ar 0800 555 111.