Coleg Penfro
Mae Pwyllgor Cynllunio Cyngor Sir Benfro yn cyfarfod heddiw i drafod cais sydd wedi dod i law i ehangu cyfleusterau Coleg Penfro yn Hwlffordd, sy’n darparu addysg chweched dosbarth.
Mae’r cais yn galw am godi estyniad dau lawr, gwerth £6.6 miliwn.
Y bwriad yw ehangu’r cyfleusterau dysgu ar gyfer y tua 2,000 o fyfyrwyr ôl-16 llawn amser sydd yno eisoes, ynghyd â chreu neuadd chwaraeon.
Yn ogystal, mae yna gynlluniau ehangach o dan ystyriaeth ar hyn o bryd i ad-drefnu’r addysg ôl-16 yng ngogledd a chanolbarth Sir Benfro.
O dan gynllun newydd, fe allai disgyblion chweched dosbarth Ysgol Dewi Sant (Tyddewi), Ysgol Bro Gwaun (Abergwaun), Ysgol Syr Thomas Picton ac Ysgol Tasker Milward (Hwlffordd) gael eu symud i Goleg Penfro yn Hwlffordd am eu haddysg.
Ond, fe fyddai Ysgol y Preseli yng Nghrymych yn parhau i gynnig darpariaeth addysg chweched dosbarth drwy gyfrwng y Gymraeg.
Yr wythnos diwethaf, fe gyhoeddodd Cyngor Sir Benfro mai safle ar Ffordd Llwynhelyg, Hwlffordd, sy’n cael ei ffafrio ar gyfer y cynllun i adeiladu Ysgol Gymraeg newydd yn yr ardal ar gyfer disgyblion 3 i 16 oed.
Mae disgwyl i’r Cyngor drafod y cais am estyniad i Goleg Penfro heddiw.