Awyren ddi-beilot ac awyren bron â gwrthdaro, Llun: Balpa
Mae yna alwadau o’r newydd am reolau llymach i awyrennau di-beilot wedi i awyren o Genefa oedd yn paratoi at lanio ym maes awyr Heathrow brynhawn ddoe gael ei tharo ag awyren ddi-beilot.

Roedd awyren British Airways yn cario 132 o deithwyr a 5 o griw wrth iddi hedfan o Genefa yn y Swistir i Lundain, pan gafodd ei tharo tua 12.50pm ddydd Sul.

Does neb wedi eu harestio, ac mae heddlu awyrennau Heathrow yn parhau i ymchwilio i’r achos.

Yn ôl llefarydd ar ran British Airways, “fe wnaeth ein hawyren ni lanio’n ddiogel, fe wnaeth peirianwyr ei harchwilio’n fanwl ac roedd hi’n iawn i weithredu ar gyfer y daith nesaf.”

‘Mater o amser’

Dyma’r achos diweddara’ a mwya’ difrifol yn ymwneud ag awyrennau di-beilot o gwmpas meysydd awyrennau, ac mae’n codi pryderon ynglŷn â’u rheolaeth.

Yn ôl adroddiad a wnaed ym mis Mawrth, roedd 23 o awyrennau di-beilot “yn agos at daro” awyrennau eraill rhwng mis Ebrill a Hydref y llynedd, ac roedd dau ohonyn nhw’n achosion yn Heathrow.

Yn ôl Steve Landells, arbenigwyr o Asiantaeth Peilotiaid Prydain (Balpa), “dim ond mater o amser oedd hi cyn y byddai awyren di-beilot yn taro eto o ystyried y symiau mawr sy’n hedfan o gwmpas gan amaturiaid nad sy’n deall y peryglon na’r rheolau.”

‘Ystyried cynllun’

 

Yn ôl argymhellion yr Awdurdod Hedfan Sifil (CAA), ni ddylai’r awyrennau di-beilot hedfan yn uwch na 400 troedfedd, a dylent gadw draw rhag awyrennau, hofrenyddion a meysydd awyrennau.

Dylai’r rhai sydd â chamerâu gadw o leiaf 50m i ffwrdd oddi wrth bobol, cerbydau ac adeiladau.

Yn ôl Gweinidog Trafnidiaeth, Robert Goodwill, mae gweinidogion yn ystyried cyflwyno technoleg i gyfyngu ar y llefydd y gall awyrennau di-beilot sifil hedfan.

Fe fyddai’n gynllun tebyg i’r rhai sydd eisoes mewn grym yn Iwerddon a’r UDA.