Andrew RT Davies
Fe fydd maniffesto’r Ceidwadwyr Cymreig yn cael ei lansio yn Wrecsam heddiw gyda’r arweinydd, Andrew RT Davies yn addo “newid go iawn i Gymru.”

Mae’r polisïau’n canolbwyntio ar addysg, iechyd, swyddi, ynghyd â chynnig mwy o wasanaethau gofal plant am ddim, gofal i’r henoed a darpariaeth band-llydan ledled Cymru erbyn 2019.

“Cymru yw’r unig ran o’r DU lle mae gwariant ar iechyd wedi lleihau, tra bo canlyniadau addysgiadol yn llusgo tu ôl, a theuluoedd sy’n gweithio’n galed ddim yn cael cefnogaeth gyda biliau’r cartref,” meddai’r arweinydd.

‘Perthynas gyffrous’

Fe fydd Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns, yn rhan o’r lansiad heddiw, ac wrth siarad cyn y digwyddiad dywedodd:

“Byddai newid ym Mae Caerdydd ar Mai 5 yn cynnig cyfle arbennig i ddatblygu perthynas gyffrous a deinamig rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.”

 

Y polisïau

Mae polisïau’r Ceidwadwyr Cymreig yn cynnwys:

  • Sicrhau bod o leiaf 75% o ambiwlansys yn ymateb yn syth i alwadau difrifol o fewn wyth munud.
  • Torri treth incwm a threth y cyngor er mwyn lleihau biliau ar gyfer 1.3 miliwn o gartrefi.
  • Creu 50,000 o swyddi, cefnogi busnesau bach a gwella isadeiledd.
  • Gwarchod £100,000 o asedau pobol mewn gofal preswyl i “sicrhau nad yw pobol yn colli eu cynilion oes mewn costau gofal.”
  • Darparu £150 miliwn yn fwy o gyllid i addysg mewn ysgolion.
  • Cydnabod yr angen i ddarparu 70,000 o gartrefi newydd yn ystod y tymor Cynulliad
  • Treblu gofal plant am ddim i rieni sydd â phlant 3-4 oed.
  • Darparu band-llydan a gwasanaeth ffonau symudol ledled Cymru erbyn 2019.