Carchar Abertawe
Mae ymchwiliad yn cael ei gynnal ar ol i dri charcharor gynnal protest ar do carchar Abertawe ddoe.
Esboniodd llefarydd ar ran y Gwasanaeth Carchar fod y tri wedi eu “symud i uned ar wahân” a bod eu “breintiau’n cael eu tynnu oddi arnyn nhw.”
Yn ogystal, mae’r digwyddiad wedi’i gyfeirio at yr heddlu.
Y brotest
Fe ddaeth y digwyddiad i ben brynhawn ddoe, wedi i’r tri fod ar y to rhwng 10 o’r gloch y bore a 4 o’r gloch y prynhawn.
Mae lle i gredu eu bod yn protestio yn erbyn penderfyniad i gynnal cynllun peilot i wahardd ysmygu ar dir y carchar ar Heol Ystumllwynarth y ddinas.
Mae Ombwdsmon y Carchardai eisoes yn cynnal ymchwiliad i farwolaeth carcharor a ddigwyddodd yn gynharach y mis hwn. Mae honiadau fod marwolaeth Dean George, 40 oed, yn gysylltiedig â’r gwaharddiad.