Mae’r heddlu’n ymchwilio i lofruddiaeth dynes yn Swydd Essex ar ôl i’w chorff gael ei ddarganfod yn Chelmsford yn oriau man fore Sul.

Cafwyd hyd i’w chorff hithau, a dyn ag anafiadau difrifol, am oddeutu 1.30yb.

Mae lle i gredu bod y ddau yn eu 50au.

Cafodd yr heddlu eu galw yn dilyn adroddiadau bod ymosodiad wedi digwydd mewn tŷ.

Cafodd y dyn ei gludo i’r ysbyty ag anafiadau difrifol ac mae’n parhau i gael triniaeth.

Mae dyn lleol 31 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddio’r ddynes.

Mae ymchwiliad yr heddlu’n parhau.