Ffion wedi curo 39 o ferched eraill i ennill ei choron
Ffion Moyle o Borthyrhyd yn Sir Gâr sydd wedi ennill coron Miss Cymru 2016.

Roedd Ffion, sy’n gweithio yn adran golur y cwmni teledu Tinopolis, wedi curo 39 o ferched eraill yn y gystadleuaeth.

Cafodd hi ei choroni mewn seremoni arbennig ym Mhort Talbot nos Sadwrn.

Bydd hi nawr yn mynd ymlaen i gynrychioli Cymru yng nghystadleuaeth Miss World, sy’n cael ei chynnal yn Ne Corea eleni.

Daeth Sophie Bell, 18 o Abertawe, a Victoria Grinnall, 21 o Gasnewydd, o fewn trwch blewyn i ennill y goron.