Yr ail Bont Hafren yn unig sydd ar agor dros y penwythnos
Mae un lôn ynghau ar yr M4 brynhawn Sul ar ôl i gerbyd oedd yn cludo ceffylau foelyd.

Mae tagfeydd am bum milltir rhwng cyffyrdd 23 a 24 (Coldra), ond mae dwy lôn bellach wedi’u hail-agor.

Mae Pont Hafren yr M48 ynghau drwy gydol y penwythnos yn sgil gwaith ar y ffordd.