Siwgr - un o'r cynhwysion 'drwg' (Fritzs CCA 3.0)
Fe fydd y cwmni sy’n gyfrifol am gwmnïau sawsiau pasta fel Dolmio ac Uncle Ben’s yn dweud wrth ei gwsmeriaid na ddylen nhw fwyta peth o’i gynnyrch fwy nag unwaith yr wythnos.
Hynny oherwydd lefelau uchel o fraster, siwgr a halen.
Fe fydd cwmni Mars Food yn rhannu ei gynnyrch i fwydydd sy’n ddigon iach i’w bwyta bob dydd ac eraill a ddylai gael eu bwyta’n achlysurol.
Yn ôl y cwmni, mae am helpu ei gwsmeriaid i wneud dewisiadau mwy iachus.
Y cynllun
Mae’r cwmni’n bwriadu torri’r cyfanswm o halen, siwgr a braster mewn rhywfaint o’i gynnyrch.
Ond mae’n dweud y bydd parhau i gynnwys rhagor o’r cynhwysion hynny er mwyn cadw “blas go iawn” y bwydydd.
Fe fydd cyngor ar y pecynnau’n nodi pa mor aml y dylai rhywun fwyta’r bwyd.