Boris Johnson am geisio tanio'r ymgyrch i adael (llun parth cyhoeddus)
Ar ddiwrnod cynta’ swyddogol ymgyrch Refferendwm Ewrop, mae pôl piniwn newydd yn awgrymu bod y ddwy ochr bron yn gyfartal.
Yn ôl arolwg ar gyfer rhaglen ITV Good Morning Britain, mae 39% eisiau gadael yr Undeb Ewropeaidd a 40% eisiau aros.
Ac ef fydd yr ymgyrch Gadael yn ceisio codi stêm gyda Maer Llundain, Boris Johnson, yn arwain cyfres o ddigwyddiadau trwy ddweud y byddai arian sy’n mynd i’r Undeb Ewropeaidd yn gallu cael ei wario ar y Gwasanaeth Iechyd.
Ar y llaw arall, mae adroddiad newydd yn cael ei gyhoeddi gan Frontline Economics sy’n dweud y byddai gadael yn costio £92 biliwn i economi gwledydd Prydain.
Cyfyngiadau gwario
Mae dechrau swyddogol yr ymgyrch yn golygu y bydd cyfyngiadau gwario ar y gwahanol garfanau.
Dyma pam yr oedd y Comisiwn Etholiadol wedi penderfynu ar ddwy brif ymgyrch – fe fyddan nhw’n cael gwario hyd at £7 miliwn.
Fe fydd carfanau sydd wedi eu derbyn yn ymgyrchwyr yn cael gwario hyd at £700,000 a phleidiau gwleidyddol yn cael gwario rhwng y ddau ffigwr, yn dibynnu ar nifer pleidleisiau’r blaid yn yr etholiad diwetha’.