Maes awyr Mashiki
Mae o leia’ naw pherson wedi cael eu lladd a 761 wedi’u hanafu ar ôl i ddaeargryn o faint 6.5 ddymchwel tai yn Japan.
Fe gwympodd o leiaf 19 o dai a blociau o fflatiau, gyda channoedd o adroddiadau bod pobol yn sownd dan y rwbel.
Mae 1,600 o filwyr wedi cael eu hanfon i’r mannau darodd y daeargryn waethaf, i helpu’r miloedd o bobol sydd wedi colli eu cartrefi.
Mae’r difrod mwya’ mewn tref o tua 32,000 o bobol o’r enw Mashiki, rhyw 800 milltir i’r de-orllewin o’r brifddinas, Tokyo, ac yn ôl adroddiadau, mae 44 o’r bobol sydd wedi’u hanafu yn ddifrifol wael.
‘Dim tswnami’
Digwyddodd y daeargryn neithiwr ond fe ddywedodd Asiantaeth Feteoroleg Siapan nad oedd peryg y bydd tswnami fel yr un a achosodd ddamwain niwclear fawr yn Atomfa Fukushima yn Japan yn 2011.
Roedd sawl ôl-gryniad wedi’r daeargryn wedi gwneud gwaith y gwasanaethau brys yn anodd.