Jeremy Corbyn
Fe fydd Jeremy Corbyn yn dweud heddiw bod “mwyafrif llethol” Llafur o blaid Prydain yn aros yn yr Undeb Ewropeaidd (UE).

Mae disgwyl i arweinydd y Blaid Lafur wneud ei araith gyntaf ar y pwnc yn yr ymgyrch cyn y refferendwm.

Yn ystod ei ymgyrch i ddod yn arweinydd y blaid, nid oedd Corbyn wedi diystyru cefnogi Brexit ac mae wedi ei gyhuddo o roi cefnogaeth lugoer i’r ymgyrch o blaid aros yn yr UE.

Mae disgwyl iddo gyfeirio at nifer o “wendidau” Brwsel ond fe fydd yn dweud mai’r Ceidwadwyr nid yr UE sy’n gyfrifol am yr argyfwng yn y diwydiant dur a’r methiant i fynd i’r afael a chwmnïau sy’n osgoi talu trethi.

Fe fydd yn dadlau’r “achos sosialaidd” o blaid aros yn yr Undeb gan gynnwys diogelu hawliau gweithwyr, safonau amgylcheddol llym a diogelu cwsmeriaid.