Mae disgwyl y bydd yn rhaid i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr recriwtio rhagor o nyrsys o’r Philipinau i ddod i weithio mewn ysbytai yng Ngogledd Cymru.
Bydd y bwrdd yn cyfarfod â Chyngor Iechyd Cymunedol y Gogledd heddiw i wynebu cwestiynau ar y prinder nyrsys sydd yn ei ysbytai.
Roedd ffigurau a gafodd eu cyhoeddi ddiwedd mis Chwefror yn dangos bod 14% o swyddi meddygol yn y gogledd yn wag.
O ganlyniad, mae’r bwrdd wedi gorfod mynd dramor i chwilio am weithwyr ac mae eisoes wedi recriwtio nyrsys o Sbaen, ac mae’n nodi mewn adroddiad ei fod yn ystyried mynd i’r Philipinau hefyd.
Recriwtio yn ‘parhau’n her’
Mae’r ffigurau diweddaraf yn dangos bod nifer y swyddi gwag i feddygon a nyrsys yn y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru wedi dyblu mewn blwyddyn.
Yn ôl adroddiad is-gyfarwyddwr nyrsio’r bwrdd iechyd, Anne-Marie Rowlands, mae recriwtio nyrsys yn “parhau” i fod yn “her”, gyda mwy o staff asiantaethau yn cael eu defnyddio.
Daeth y ddeddf isafswm nyrsys i rym yng Nghymru ddiwedd fis Mawrth sy’n golygu mai Cymru yw’r wlad gyntaf yn Ewrop i’w gwneud hi’n ddyletswydd gyfreithiol i ddarparu isafswm o nyrsys ar wardiau sy’n cynnig gofal mwy arbenigol i gleifion.