Neil McEvoy
Mae Plaid Cymru wedi cyhuddo Llywodraeth Cymru o gelu dogfennau’n ymwneud â gwerthu tir a oedd yn ei meddiant.

Yn ôl Neil McEvoy, ymgeisydd Cynulliad Plaid Cymru, mae’r Llywodraeth yn gwrthod rhyddhau gohebiaeth rhwng rhanddeiliaid mewn perthynas â gwerthiant y tir fel un portffolio ym mis Mawrth 2011 tan i’r gwerthiant gael ei gwblhau ym mis Mawrth 2012.

Ar y pryd, cafodd y cais ei wrthod a dywedodd Llywodraeth Cymru y byddai’n cymryd 35 awr i benderfynu a oedd yr ohebiaeth yn berthnasol i’r cais, ac y byddai angen gwirio pedwar bocs o ffeiliau papur er mwyn gwneud y penderfyniad hwnnw.

Yn gynharach eleni, canfu Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad y canlynol:

–          Bod tir wedi cael ei werthu am lawer llai na’i werth;

–          Bod safle Llysfaen wedi cael ei werthu am £1.2 miliwn, er mai £39 miliwn yw ei werth erbyn hyn;

–          Bod safle ar Fferm Upper House yn y Rhŵs ym Mro Morgannwg wedi’i werthu am lai na £3 miliwn er ei fod wedi’i werthu maes o law am £10.5 miliwn;

–          Bod safle yn Abergele wedi’i werthu am £100,000 a’i werthu eilwaith am £1.9 miliwn;

–          Bod elw o £5.8 miliwn wedi’i wneud gan brynwr safle yn Ffordd Wonastow yn Nhrefynwy a gafodd ei brynu gan Lywodraeth Cymru am £1.1 miliwn.

‘Ymgais i atal craffu’

Dywedodd Neil McEvoy, ymgeisydd Plaid Cymru yn y Cynulliad dros Orllewin Caerdydd:

“O ystyried bod miliynau o bunnoedd  wedi eu colli, rwyf o’r farn fod yn rhaid i Lywodraeth Cymru ryddhau’r ohebiaeth y gofynnwyd amdano a pheidio ceisio cuddio y tu ôl i’r esgus y bydd yn cymryd gormod o amser i gasglu’r wybodaeth.

“Mae’n anodd credu hyn, o gofio’r honiad amheus nad yw’r wybodaeth ar gael yn rhwydd. Mae hyn yn edrych fel ymgais i atal craffu ac y mae’n drewi o geisio celu ffeithiau.

“Efallai y byddai rhyddhau’r ohebiaeth yn creu embaras i Weinidogion Cymru am y gall ddangos eu blerwch, ond dyw hynny ddim yn esgus dros gadw’r wybodaeth hon o olwg y cyhoedd.”

Ychwanegodd fod Cyngor Caerdydd hefyd wedi gwrthod trafod y mater.