Omair Abbas
Mae Heddlu’r De yn dweud eu bod nhw wedi dod o hyd i gorff dyn yn Afon Elai ym Mae Caerdydd bnawn dydd Mercher.

Nid yw’r corff wedi cael ei adnabod yn ffurfiol hyd yn hyn ond mae teulu Omair Abbas, o Gaerdydd, a oedd wedi bod ar goll ers 31 Mawrth, wedi cael eu hysbysu.

Roedd yr heddlu wedi bod yn chwilio am Omair Abbas, 18, ers iddyn nhw dderbyn adroddiadau ei fod ar goll wythnos ddiwethaf.

Cafodd lluniau teledu cylch cyfyng (CCTV) eu cyhoeddi ohono yn cerdded ar y gylchfan ger Asda ar Heol Lecwydd.

Cafwyd hyd i’r corff yn yr afon yn agos i Heol Dunleavy ym Mae Caerdydd.