Kirsty Williams
Fe fydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru yn pwysleisio pwysigrwydd addysg, iechyd a’r economi wrth iddyn nhw lansio’u maniffesto ar gyfer etholiadau’r Cynulliad ddydd Iau.

Bydd arweinydd y blaid yng Nghymru, Kirsty Williams ym Mhenarth i ymweld â meddygfa leol ac i gynnal sesiwn holi ac ateb ar gyfer staff y Gwasanaeth Iechyd.

Ar drothwy’r lansiad, dywedodd Kirsty Williams mewn datganiad: “Mae hwn yn faniffesto sydd yn cyflwyno Cymru fydd yn gweithio i chi.

“Mae pobol am gael ysgolion da, ysbytai da ac economi fywiog – dyfodol cryf i Gymru.

“Ar ôl 17 o flynyddoedd mewn grym, mae pobol yn cydnabod fod y Llywodraeth Lafur yn dal i fethu â chael y pethau sylfaenol yn iawn.

“Rydym yn lansio’n gweledigaeth heddiw mewn meddygfa er mwyn cyfleu neges glir: rydym yn canolbwyntio’n ddiflino ar wella gwasanaethau cyhoeddus.”

‘Uchelgeisiol ac arloesol’

Ychwanegodd fod maniffesto’r blaid yn “fap ar gyfer Cymru uchelgeisiol, optimistaidd ac arloesol”.

Ategodd neges ei phlaid mai’r flaenoriaeth yw sicrhau bod mwy o nyrsys ar gael ar wardiau, bod maint dosbarthiadau mewn ysgolion yn lleihau a bod yr economi’n rhoi cyfleoedd i bobol yn eu bywydau bob dydd.

“Mae’n hen bryd fod gan Gymru lywodraeth sy’n gwrando ar bobol.”