Rhan o bentre Llanwrin - newydd symud yno yr oedd Tracy Cocrell ( Llun OLU CCA2.0)
Fe gadarnhaodd Heddlu Dyfed-Powys enwau’r ddau gorff a gafwyd mewn ffermdy ar gyrion Machynlleth ddydd Sul.

Maen nhw’n ystyried bod Tracy Cockrell, 51 oed, wedi cael ei llofruddio ond dydyn nhw ddim yn chwilio am neb arall yn achos y dyn, Nigel McGrath, 45 oed.

Fe gafodd yr heddlu eu galw i ffermdy ym mhentre’ Llanwrin brynhawn dydd Sul.

Newydd symud i’r ardal ychydig fisoedd yn ôl yr oedd Tracy Cockrell ac roedd hi’n gweithio mewn cartref gofal ym Machynlleth.

Roedd hi’n fam i bedwar ac yn nain i saith.