Mae angen dechrau trafodaeth ar unwaith i wneud yn siŵr bod S4C yn aros yn annibynnol o ran cynnwys ac arian, meddai Prif Weithredwr y sianel wrth Golwg 360.

Pe bai’r penderfyniadau anghywir yn cael eu gwneud, meddai Ian Jones, fe allai bwrdd rheoli’r BBC fod yn penderfynu ar lefelau gwario S4C er y byddai gwasanaethau’r Gorfforaeth yn elwa o unrhyw doriadau iddyn nhw.

Dyna fyddai un o oblygiadau creu Bwrdd Unedol, tebyg i fwrdd cyfarwyddwyr cwmni masnachol, i redeg y BBC – syniad sy’n cael ei ystyried gan Lywodraeth Prydain.

“Dw i ddim yn gweld sut y gall Bwrdd Unedig benderfynu ar wariant corff arall os nhw sy’n cael y fantais os bydd toriadau,” meddai ar ôl codi’r pryder mewn araith yn Llundain heddiw.

‘Dim ystyriaeth wedi bod’

Yn ôl Ian Jones, mae’n bwysig iawn fod y drafodaeth yn dechrau cyn i Lywodraeth Prydain gyhoeddi Papur Gwyn ar ddyfodol y BBC.

“Does dim ystyriaeth wedi bod i’r effaith ar gyrff eraill, sef ni,” meddai Ian Jones. “Mae’n bwysig cael trafodaeth er mwy sicrhau annibyniaeth ariannol, annibyniaeth olygyddol ac annibyniaeth weithredol S4C.”

Fe fydd yn cael cyfarfod gyda James Purnell, Cyfarwyddwr Strategol y BBC, yn ystod y dyddiau nesa’

Trafod ‘caled’

Os bydd y Llywodraeth yn derbyn y syniad – a gafodd ei gynnig mewn adroddiad annibynnol gan David Clementi – fe fydd angen am “drafodaethau caled” wedyn, meddai Ian Jones.

O dan y cynigion fe fyddai Ymddiriedolaeth hyd braich y BBC yn cael ei dileu a bwrdd yn cael ei benodi yn cynnwys uchel swyddogion ac aelodau o’r tu allan gan weithredu fel bwrdd cyfarwyddwyr yn hytrach na chorff craffu mwy annibynnol.

Mae’n bosib y gallai S4C hefyd wynebu’r un math o newid, ond fyddai hynny ddim yn broblem, meddai Ian Jones, gan fod Awdurdod S4C a staff eisoes yn cydweithio’n agos.