Gallai cwmnïau rhyngwladol sy’n gweithredu yn yr Undeb Ewropeaidd gael eu gorfodi i fod yn fwy agored am eu trefniadau treth dan gynigion newydd sy’n cael eu cyflwyno yn Strasbwrg.
O dan y cynlluniau newydd, bydd yn rhaid i gwmnïau mawr sy’n gwneud trosiant blynyddol o dros 750m ewro (£600m) ddatgelu faint o dreth maen nhw’n ei dalu fesul gwlad.
Fe fydd yn cynnwys cwmnïau fel Apple, Starbucks a Google sydd wedi cael eu beirniadu am eu trefniadau treth.
Amcangyfrifir bod osgoi talu treth gorfforaethol yn costio £56 biliwn y flwyddyn i wledydd Ewropeaidd.
Os caiff sêl bendith arweinwyr Ewrop, gall y ddeddfwriaeth newydd fod ar waith erbyn 2018. Ni fydd yn cael effaith ar fusnesau bach a chanolig meddai’r Comisiwn Ewropeaidd.
Daw’r cyhoeddiad yn dilyn stŵr rhyngwladol papurau Panama a oedd yn dangos defnydd y cwmnïau rhyngwladol a’r unigolion mwyaf cyfoethog o hafanau treth.
Wrth siarad cyn ei lansio, dywedodd comisiynydd sefydlogrwydd ariannol Ewrop, yr Arglwydd Hill, nad oedd y cynllun yn canolbwyntio’n “bennaf” ar gynnwys papurau Panama ond bod “cysylltiad pwysig rhwng ein gwaith parhaus ar dryloywder treth a hafanau treth.”
Cameron yn croesawu
Cafodd cynigion yr UE eu croesawu gan y Prif Weinidog David Cameron a’r Canghellor George Osborne yn y cyfarfod Cabinet wythnosol.
“Rydym wedi arwain y ffordd ar yr agenda rhyngwladol ar dreth a thryloywder, ac rydym yn croesawu cynigion yr Undeb Ewropeaidd heddiw, a fydd yn gwella ein gallu i sicrhau bod cwmnïau yn talu treth,” meddai llefarydd swyddogol y Prif Weinidog.