Mae Aelodau Seneddol wedi ymgynnull yn Nhŷ’r Cyffredin y prynhawn yma wrth i’r ddadl frys ynglŷn ag argyfwng y diwydiant dur ddechrau.

Daw’r ddadl yn dilyn cais gan ysgrifennydd busnes yr wrthblaid, Angela Eagle.

Fe esboniodd fod galw am ddadl o’r fath yn “brin” ond bod cyflwr y diwydiant dur “yn ddim llai nag argyfwng erbyn hyn.”

Mae’r broses ffurfiol o werthu busnesau Tata yn y DU wedi dechrau ddoe, gyda’r cwmni’n dweud ei fod yn bwriadu cysylltu â  “degau” o gwmnïau yn y gobaith o achub miloedd o swyddi.

Ond, mae’r Blaid Lafur wedi galw am fwy o fanylion i’r cynlluniau, ac mae disgwyl i’r ddadl bara am dair awr prynhawn yma.

‘Buddsoddi ar y cyd’

“Mae llawer wedi’i ddweud am y gost o arbed y diwydiant dur – ond mae llawer i’w ddweud hefyd am y gost o’i adael a’i ddinistrio,” meddai Angela Eagle yn ei datganiad.

Mae’r Ysgrifennydd Busnes, Sajid Javid, eisoes wedi dweud bod Llywodraeth y DU yn ystyried buddsoddi ar y cyd ym musnesau Tata yn y DU.

Dywedodd Cyfarwyddwr Grŵp Gweithredol Tata hefyd, Koushik Chatterjee, mai bwriad y cwmni yw gwerthu’r asedau fel un yn hytrach na gwahanu’r busnes.

Daw hyn wedi i’r cwmni arwyddo cytundeb i werthu ei fusnes Long Products Europe, sy’n cynnwys y gwaith dur yn Scunthorpe, i gwmni buddsoddi Greybull Capital, gan ddiogelu 4,400 o swyddi yn y DU.