George Osborne
Mae’r Canghellor George Osborne wedi cyhoeddi ei fanylion treth ar gyfer y flwyddyn ariannol ddiwethaf yn dilyn pwysau cynyddol gan y pleidiau a chefnogaeth gan y Prif Weinidog i fod yn “dryloyw”.

Mae’r manylion yn dangos cyfanswm incwm treth o £198,738 – gan gynnwys £44,647 ar ffurf rhandaliadau ac incwm rhent o £33,562.

Mae hyn yn golygu fod y Canghellor wedi talu £72,210 o dreth incwm.

Mae arweinydd y Blaid Lafur Jeremy Corbyn hefyd wedi cyhoeddi ei fanylion treth.

‘Rheolau gwydn’

Dywedodd David Cameron wrth aelodau Tŷ’r Cyffredin heddiw nad oes disgwyl i’r holl Aelodau Seneddol ddangos yr un tryloywder â hyn, ond awgrymodd y dylai arweinwyr a changellorion yr wrthblaid wneud yr un fath.

Esboniodd mai “nhw yw’r bobol sydd, neu’n dymuno bod, â chyfrifoldeb tros gyllid y genedl.

“I Aelodau Seneddol, mae gennym reolau gwydn yn eu lle yn barod ar fuddiannau’r aelodau a’u datganiadau, a dw i’n meddwl mai dyna’r model y dylem ni barhau i’w ddilyn.”

‘Cryfhau’r gyfraith’

Yn y cyfamser, mae David Cameron wedi cyhoeddi mesurau newydd i’w gwneud hi’n anoddach i bobol guddio eu buddiannau a’u helw o gronfeydd tramor.

Dywedodd ei fod am “gryfhau’r gyfraith” gan alw ar diriogaethau dibynnol y goron – lle mae llawer ohonyn nhw’n noddfeydd trethi – i rannu gwybodaeth ag awdurdodau Prydain.

Ychwanegodd fod pob un, heblaw am Guernsey ac Anguilla, wedi cytuno i gyfraith y DU ac awdurdodau treth i gael mynediad at wybodaeth ar berchnogaeth fuddiol cwmnïau.

“Am y tro cyntaf, bydd heddlu’r DU a’r gyfraith yn gallu gweld yn union pwy sy’n berchen ac yn rheoli pob cwmni sydd wedi ymgorffori yn y tiriogaethau yma,” meddai David Cameron.

Bydd y gyfraith hefyd yn weithredol yn y DU ac esboniodd eu bod am “ddarparu cyllid cychwynnol hyd at £10miliwn ar gyfer grŵp Tasglu ar draws yr asiantaethau i asesu gwybodaeth nad sydd ar gael oddi wrth Panama, ac i weithredu’n sydyn.”