Dylai’r cynllun i uno’r rhwydweithiau ffonau symudol Three ac O2 gael eu hatal neu eu cyfyngu, meddai’r Awdurdod Marchnad a Chystadleuaeth y Deyrnas Unedig (CMA).

Mewn llythyr at y Comisiwn Ewropeaidd, eglurodd y CMA y byddai’r cynllun gwerth £10.3 biliwn i uno’r rhwydweithiau yn “rhwystr sylweddol i gystadleuaeth effeithiol” ym marchnad ffonau symudol y DU.

Mae rheoleiddwyr Ewropeaidd wedi bod yn astudio’r cynllun ers rhai misoedd bellach wedi i berchennog Three, Hutchison Whampoa o Hong Kong, ddechrau trafodaethau ym mis Ionawr y llynedd i brynu O2 oddi wrth Telefonica Sbaen.

Yn ôl y CMA, byddai’r cytundeb yn golygu y byddai’r pedwar prif rwydwaith yn y DU – sef Vodafone, Three, 02 ac EE – yn cael eu cwtogi i dri ac ni fyddai hynny’n fuddiol o ran “cystadleuaeth i ddefnyddwyr.”

‘Pryderon’

Dywedodd Richard Lloyd, Prif Weithredwr Which? (corff gwarchod defnyddwyr) fod y CMA yn iawn i ddweud “y byddai’r uniad hwn, o’i adael i barhau, yn lleihau dewis a chystadleuaeth cwsmeriaid y DU yn y farchnad ffonau symudol.”

Er hyn, mae’r cwmni Virgin Media yn dadlau y byddai cael tri chwmni mawr yn rhoi mwy o gyfle i gystadlu ag EE sydd bellach yn eiddo i BT.

Yn ôl Prif Weithredwr Virgin Media, Tom Mockridge: “Llai na thri mis yno ôl fe wnaeth y CMA gymeradwyo uniad BT ac EE, er gwaetha’r pryderon fod hyn yn rhoi gormod o’r sbectrwm gwerthfawr yn nwylo un darparwr.”

Mae disgwyl i’r Comisiwn Ewropeaidd ddod i benderfyniad ynglŷn â chymeradwyaeth y cytundeb erbyn Mai 19, neu ynghynt.