Maes Awyr Hofrennydd Caerdydd
Mae disgwyl i Faes Awyr Hofrennydd Caerdydd ailagor yr haf hwn yn dilyn adroddiadau bod perchnogion Maes Awyr Caernarfon wedi arwyddo prydles 50 mlynedd ar gyfer y safle yn Nhremorfa.

Er hyn, dywedodd llefarydd ar ran Maes Awyr Caernarfon wrth golwg360 nad oes cynlluniau eto ynglŷn â threfn y gwasanaeth ac a fydd cysylltiadau’n cael eu cynnal rhwng y brifddinas ac ardaloedd eraill ai peidio.

Bu’r safle ynghau ers 2014, ac mae golwg360 wedi gofyn am ymateb Cyngor Dinas Caerdydd i’r cynlluniau.

‘Allweddol’

Pan gaeodd y safle yn 2014, doedd unman arall yng Nghaerdydd i hedfan i mewn iddo,” meddai Owain Davies, Cyfarwyddwr y busnes diwydiannol Amcanu wrth golwg360 wrth groesawu’r cynlluniau.

Mae Owain Davies yn aelod o Fwrdd Cyngor CBI Cymru ac mae ganddo brofiad o hedfan hofrenyddion ei hun.

Dywedodd fod cael maes awyr ar gyfer hofrenyddion yn “allweddol i unrhyw wlad sydd am gael economi llewyrchus.

“Mae’n bwysig i gael y cyfleusterau yn agos at ganol y ddinas hefyd, ac mae’r maes yma’n wych am ei fod ymhell oddi wrth faes awyr Caerdydd ac felly fydd e ddim yn effeithio ar yr awyrennau yno.”

Esboniodd mai Huw Evans o Roshirwaun yng Ngwynedd yw un o berchnogion Maes Awyr Caernarfon, a chroesawodd y datblygiad gan ddweud fod gan y gŵr busnes “barch a phrofiad yn y maes hwn, felly bydd e’n datblygu hwn i fod yn wasanaeth llwyddiannus, yn union fel mae wedi neud eisoes yng Nghaernarfon.”