Mae mam wedi cael ei charcharu am oes ar ôl ei chael yn euog o lofruddio ei merch fach 21 mis oed drwy sathru arni.
Yn Llys y Goron Birmingham ddydd Gwener ddiwethaf, cafwyd Kathryn Smith, 23, yn euog o lofruddio ei merch Ayeeshia Jane Smith, yn dilyn achos llys a barodd am chwe wythnos.
Cafwyd ei chynbartner Matthew Rigby, 22 yn euog o achosi neu ganiatáu marwolaeth Ayeeshia Smith yn eu cartref yn Burton-upon-Trent yn Swydd Stafford ar 1 Mai 2014, ond yn ddieuog o’i llofruddio.
Cafodd Rigby ei garcharu am dair blynedd a chwe mis.
Wrth ei dedfrydu heddiw, dywedodd y barnwr Mrs Ustus Geraldine Andrews y bydd yn rhaid i Kathryn Smith dreulio o leiaf 24 mlynedd dan glo.