Mae Network Rail wedi rhybuddio y gallai teithwyr wynebu oedi y bore yma, yn dilyn diffyg yng nghyflenwad pŵer gorsaf drenau Birmingham.

Nid oedd trenau yn medru mynd i mewn na gadael gorsaf drenau Birmingham New Street y bore yma, ac roedd hyn wedi effeithio ar wasanaethau Trenau Arriva Cymru, Virgin Trains, London Midland a CrossCountry.

Yn ôl llefarydd ar ran Network Rail, bu peirianwyr yn ceisio datrys y broblem wrth gyffordd Proof House ers 4 y bore yma, ac fe achosodd “broblemau mawr i’r teithio boreol.”

Bellach, mae’r cyflenwad wedi’i adfer, ond mae Network Rail yn rhybuddio y gallai teithwyr wynebu oedi pellach, ac maen nhw’n annog pobol i wirio’r amserlenni cyn teithio.