Gallai perchnogion cŵn gael dirwy o heddiw ymlaen os nad ydyn nhw’n trefnu bod microsglodyn yn cael ei roi yn eu hanifeiliaid anwes, yn ôl deddf newydd sy’n dod i rym ddydd Mercher.

Mae’r ddeddf, sy’n dod i rym yng Nghymru, Lloegr a’r Alban yn golygu y gallai pobol gael dirwy o hyd at £500 os nad yw eu cŵn wedi cael microsglodyn erbyn eu bod yn wyth wythnos oed.

Yn ôl Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra), mae mwy na miliwn o gŵn yn y DU heb microsglodyn – un o bob wyth o’r boblogaeth.

Os yw awdurdodau lleol yn dod o hyd i gi heb microsglodyn, yna fe fydd perchnogion yn cael hyd at 21 diwrnod i gydymffurfio â’r gyfraith.

Diogelwch

Dywedodd Gweinidog Lles Anifeiliaid Defra, George Eustice: “Rydym yn genedl sy’n caru cŵn ac ry’n ni am wneud yn siŵr eu bod yn aros yn ddiogel.

“Gall gosod microsglodyn yn ein cŵn aduno pobol gydag hanifeiliaid anwes sydd wedi mynd ar goll neu wedi eu dwyn, a mynd i’r afael â’r broblem gynyddol o gŵn sy’n crwydro’r strydoedd, gan leddfu’r baich ar elusennau anifeiliaid ac awdurdodau lleol.”

Mae’r microsglodyn tua maint gronyn reis ac mae’n cael ei osod o dan y croen rhydd ar gefn gwddf ci.

Nid yw’r gyfraith newydd yn disodli’r gofynion blaenorol bod yn rhaid i gŵn wisgo coler a thag gydag enw eu perchennog arno mewn mannau cyhoeddus, meddai Defra.