Huw Landeg Morris o Abertawe sydd wedi trefnu'r daith
Mae taith hen geir wedi cael ei threfnu o Abertawe i Ffrainc ym mis Gorffennaf eleni er mwyn nodi 100 mlynedd ers brwydr Coedwig Mametz.
Roedd y frwydr yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf yn rhan o frwydr ehangach y Somme, gyda nifer o gatrodau o Gymru yn rhan o’r ymladd rhwng 7 a 12 Gorffennaf 1916, a miloedd o filwyr yn cael eu hanafu a’u lladd.
Bwriad y rheiny sydd yn mynd ar y daith yw cymryd rhan yn rhai o’r digwyddiadau yng ngogledd Ffrainc i goffáu’r frwydr a’r Rhyfel, yn ôl trefnydd y daith eleni, Huw Landeg Morris.
Ond fe fu’n rhaid i’r grŵp addasu eu trefniadau ar ôl i awdurdodau Ffrainc ddweud fod yn rhaid i bawb sydd yn dymuno mynychu’r digwyddiadau gofrestru erbyn canol mis Mai, a hynny am resymau diogelwch.
Cofio cyfaill agos
Cafodd y daith ei threfnu gan Huw Landeg Morris er cof am yr Athro Robert Phillips, awdur llyfr ar hanes Brwydr Coedwig Mametz, oedd hefyd yn gyd-weithiwr gydag ef ym Mhrifysgol Abertawe ac yn gyfaill da o’u dyddiau gyda’i gilydd yn Ysgol Ramadeg y Bechgyn Aberdâr.
Syniad Huw Morris oedd hi i fynd ar y daith i Ffrainc mewn hen geir, ac yntau’n ymddiddori’n fawr ynddynt, ac mae bron i ugain o geir eraill eisoes wedi cofrestru i fynd ar y daith gydag ef.
Dywedodd y trefnydd bod dal ychydig o lefydd ar ôl – ond maen nhw bellach ar frys i’w llenwi, a hynny erbyn 5 Mai, gan fod awdurdodau Ffrainc wedi eu hysbysu am y trefniadau diogelwch diweddaraf.
Mae disgwyl i awdurdodau Ffrainc fod ar eu mwyaf gwyliadwrus yn ystod mis Mehefin a Gorffennaf eleni rhag bygythiadau brawychol.
Daw hynny yn sgil ymosodiadau diweddar ym Mharis a Brwsel, a hynny ychydig fisoedd cyn bod disgwyl i gannoedd ar filoedd o gefnogwyr pêl-droed gyrraedd Ffrainc ar gyfer pencampwriaeth Ewro 2016.
Gadael o’r George
Bydd taith yr hen geir yn digwydd rhwng 5 a 8 Gorffennaf, gan adael o dafarn y ‘George’ yn y Mwmbwls am 10.00 o’r gloch y bore hwnnw.
Fe esboniodd Huw Morris bod gan y dafarn honno gysylltiad arbennig â’r daith, gan fod Catrawd Abertawe hefyd wedi ymgynnull yn y fan honno cyn gadael am Ffrainc yn 1916.
“Wedi i mi weld llun o’r milwyr yn sefyll mewn rhesi perffaith o flaen Gwesty’r George, cyn iddynt adael i ymladd yn Ffrainc, teimlais ei fod yn addas gadael o’r un man. Doedd dim dewis arall,” esboniodd Huw Morris.
“Mae’n drist nodi bod 63 o’r milwyr yn y llun wedi’u lladd ym Mrwydr Coedwig Mametz.”
Mae modd cael rhagor o fanylion am y daith ar wefan Mametz Run, a chofrestru diddordeb i ymuno â’r daith drwy gysylltu drwy e-bost â landeg@ntlworld.com.