Yr Arglwydd Owen sy'n lansio ymgyrch 'Save Our NHS', sy'n rhan o ymgyrch 'Vote Leave'
Mae un o gyn-ysgrifenwyr tramor Llafur wedi rhybuddio bod angen i Brydain adael yr Undeb Ewropeaidd er mwyn gwarchod y Gwasanaeth Iechyd yn Lloegr rhag “Undeb Ewropeaidd gamweithredol”.

Fe fydd yr Arglwydd Owen yn lansio ymgyrch ‘Save our NHS’ sydd yn rhan o ymgyrch Vote Leave i annog Prydain i bleidleisio dros adael yr Undeb Ewropeaidd yn y refferendwm ym mis Mehefin.

Y pryder ymysg rhai yw y gallai cytundeb masnach rydd newydd sydd yn cael ei drafod ar lefel Ewropeaidd agor y drws i breifateiddio o fewn y gwasanaeth iechyd.

David Owen oedd y Gweinidog Iechyd a ymgyrchodd dros aros yn rhan o’r Gymuned Economaidd Ewropeaidd yn ystod y refferendwm diwethaf yn 1975.

Ond mae disgwyl iddo ddweud ddydd Mercher y byddai gadael yr Undeb Ewropeaidd yn golygu bod Prydain yn medru rheoli’r gwasanaeth iechyd unwaith eto, a’i warchod rhag cystadleuaeth allanol.

Poeni am TTIP

Un o bryderon mawr rhai o wleidyddion yr adain chwith yw’r cytundeb masnach rydd ‘TTIP’ sydd yn cael ei drafod ar hyn o bryd rhwng yr Unol Daleithiau a’r Undeb Ewropeaidd.

Yn ôl gwrthwynebwyr i’r cytundeb, fe allai olygu bod y Gwasanaeth Iechyd mewn perygl o gael ei breifateiddio a’i roi yn nwylo cwmnïau Americanaidd.

Ond mae’r llywodraeth Geidwadol wedi mynnu nad yw’r cytundeb TTIP yn bygwth y gwasanaeth iechyd, a’i fod yn cynnig mwy o gyfleoedd i fusnesau o Brydain fasnachu’n agored.

“Os yw pobol yn pleidleisio dros adael ar 23 Mehefin – a dw i’n gobeithio y byddan nhw – fydd dim modd wedyn i lywodraeth Brydeinig gymeradwyo TTIP,” meddai’r Arglwydd Owen.

“Yn dilyn hynny, fe fydd y Gwasanaeth Iechyd yn cael ei reoli gan ddeddfwriaeth Brydeinig ac fe allwn ni gymryd rheolaeth ohoni a’i gwarchod rhag yr Undeb Ewropeaidd.”