Gweithredoedd ariannol Sigmundur David Gunnlaugsson yn cael eu hamau
Mae Prif Weinidog Gwlad yr Iâ wedi ymddiswyddo, sy’n golygu mai fe yw’r gwleidydd blaenllaw cyntaf i orfod camu o’r neilltu yn sgil datgelu’r ‘papurau Panama’.

Cafodd dros 11 miliwn o ddogfennau ariannol cwmni cyfreithiol Mossack Fonseca ym Mhanama eu rhyddhau yn ddiweddar oedd yn cynnwys manylion am gynlluniau pobol gyfoethog ar draws y byd i osgoi talu trethi.

Fe ddaeth i’r amlwg fod Sigmundur David Gunnlaugsson yn un o’r rheiny oedd wedi bod yn defnyddio cyfrif er mwyn gwneud hynny.

Cafodd hynny groeso llugoer yng Ngwlad yr Iâ, un o’r gwledydd gafodd eu heffeithio fwyaf yn ystod y dirwasgiad ariannol yn 2008.

Protestio

Dydy arlywydd Gwlad yr Iâ, Olafur Ragnar Grimsson, ddim wedi cadarnhau eto pwy fydd y Prif Weinidog newydd, ond mae Sigmundur David Gunnlaugsson eisoes wedi cynnig enw ei ddirprwy, Sigurdur Ingi Johansson.

Daeth hynny yn dilyn protestiadau enfawr y tu allan i senedd y wlad, gyda phobol yn galw ar y Prif Weinidog i adael.

Dydy hi ddim yn glir eto, fodd bynnag, a fydd y llywodraeth bresennol yn aros neu a fydd etholiadau’n cael eu cynnal o’r newydd.

Dywedodd rhai protestwyr eu bod yn bwriadu aros tan bod y llywodraeth yn ymddiswyddo, a hynny gan ei bod wedi dod i’r amlwg bod gweinidogion eraill, gan gynnwys y Gweinidog Cyllid a’r Gweinidog Cartref, hefyd yn cadw arian mewn cyfrifon tramor.

‘Dim o’i le’

Mae Sigmundur David Gunnlaugsson wedi mynnu nad yw ef a’i wraig wedi gwneud unrhyw beth o’i le, gan ddweud ei fod wedi talu ei drethi ac nad oedd unrhyw beth anghyfreithiol am yr arian roedd wedi’i gadw mewn cyfrifon tramor.

Ond mae gwleidyddion o’r pleidiau eraill wedi dweud bod y cronfeydd yn achos o wrthdaro buddiannau â’i swydd fel prif weinidog.

Roedd Sigmundur David Gunnlaugsson a’i wraig wedi sefydlu cwmni o’r enw Wintris gyda chymorth Mossack Fonseca, oedd â chyfraddau mewn banciau yng Ngwlad yr Iâ yr oedd gan y llywodraeth gyfrifoldeb dros eu goruchwylio.

Mae Prif Weinidog Prydain David Cameron a llywydd FIFA Gianni Infantino hefyd ymysg y rheiny sydd wedi wynebu cwestiynau yn dilyn datgelu papurau Panama.