Dechreuodd y streic 48 awr am 8 o'r gloch y bore ma
Mae dros 5,100 o lawdriniaethau wedi cael eu canslo yn Lloegr oherwydd streic 48 awr gan feddygon.

Dechreuodd y streic am 8 o’r gloch y bore ma.

Dyma’r bedwaredd streic ers i’r ffrae tros gytundebau gychwyn, gyda bron i 25,000 o lawdriniaethau wedi’u canslo ers y streic gyntaf.

Bydd meddygon iau yn darparu gofal brys yn ystod y streic, ond mae disgwyl iddyn nhw hefyd streicio’n ddiweddarach ym mis Ebrill, ond ni fydd meddygon yn darparu gofal brys bryd hynny.

Telerau

Mae meddygon iau yn gwrthwynebu cytundeb newydd a fyddai’n arwain at yr hyn y mae Llywodraeth Prydain yn ei alw’n wasanaethau saith diwrnod yr wythnos.

Ond dydy meddygon iau ddim yn hapus gyda’r telerau, yn enwedig y tâl sy’n cael ei gynnig am weithio yn ystod oriau anghymdeithasol dros y penwythnos.

Mae Cymdeithas feddygol y BMA hefyd yn gwrthwynebu agweddau eraill ar y cytundeb sy’n dod i rym ym mis Awst, ac maen nhw’n galw ar Lywodraeth Prydain i ail-ystyried y cynnig.

Mae’r BMA yn herio’r cytundeb yn gyfreithiol, gan alw am arolwg barnwrol, ac mae mudiad Just Health yn bwriadu herio’r Ysgrifennydd Iechyd Jeremy Hunt yn gyfreithiol.

Dywedodd llefarydd ar ran Adran Iechyd San Steffan fod y streic yn “anghyfrifol ac yn anghymesur”