Ted Cruz yn honni bod y rhod wedi troi yn yr ymgyrch (llun o wefan ei ymgyrch)
Mae’r ddau ffefryn i wynebu’i gilydd yn y ras i fod yn Arlywydd yr Unol Daleithiau wedi cael eu curo eto.

Fe gollodd Donald Trump a Hillary Clinton yn etholiadau eu pleidiau, gyda buddugoliaethau i’r ddau heriwr, Ted Cruz a Bernie Sanders, yn mhleidleisiau enwebu Wisconsin.

Roedd buddugoliaeth Cruz yn ergyd fawr i Donald Trump, sydd yn dal i fod ar y blaen yn ras y blaid Weriniaethol ond yn dechrau colli tir ar ôl wythnos anodd.

Yn ras y Democratiaid, er gwaetha’i fuddugoliaeth, mae Sanders yn dal i wynebu her sylweddol os yw am ddal Hillary Clinton.

‘Dwyn yr enwebiad’

Yn dilyn y canlyniad fe fynnodd Ted Cruz fod y rhod yn dechrau troi yn erbyn y biliwnydd Donald Trump, sydd wedi cael ei feirniadu dros y dyddiau diwethaf am ei agwedd tuag at fenywod a’i ddiffyg polisïau.

Ychwanegodd Cruz y gallai’r Gweriniaethwyr nawr uno y tu ôl iddo ef yn dilyn misoedd o ffraeo mewnol o fewn y blaid dros eu hymgeisydd – Cruz yw unig obaith sefydliad y blaid i atal Trump.

Ond mynnodd Trump nad oedd y frwydr ar ben o bell ffordd, gan gyhuddo’r seneddwr o Tecsas o fod yn “geffyl Troia” oedd yn cael ei ddefnyddio gan y blaid er mwyn “dwyn” yr enwebiad oddi arno.

Momentwm?

Ar ôl ennill bron i bob sir yn Wisconsin fe fynnodd Bernie Sanders nad oedd ei ymgyrch yntau ar ben wrth iddo geisio trechu ceffyl blaen y Democratiaid, Hillary Clinton.

Mae Sanders bellach wedi ennill saith o’r wyth talaith ddiwethaf, ac yn ffefryn i ennill yn Wyoming ddydd Sadwrn.

Ond mae’n parhau i fod ar ei hôl hi yn y ras gyffredinol, gyda 1,025 o gynrychiolwyr o’i gymharu â’r 1,274 sydd gan Hillary Clinton – mae pob talaith yn anfon hyn a hyn o gynrychiolwyr i’r gynhadledd ddewis derfynol, ar sail y bleidlais leol.

Mae gan Clinton hefyd gefnogaeth y rhan fwyaf o’r uwch-gynrychiolwyr, bron i 500 i gyd, sef swyddogion y blaid sydd yn cael dewis unrhyw ymgeisydd o’u dewis nhw.