Boris Johnson (llun parth cyhoeddus)
Yn ystod ymweliad gyda Chymru, fe honnodd Maer Llundain Boris Johnson fod gan y Blaid Geidwadol yng Nghymru gyfle gwych i i sicrhau buddugoliaeth yn etholiadau’r Cynulliad.
Roedd Maer Llundain yn ymgyrchu yng Nghasnewydd, Caerdydd ac Aberhonddu gydag Arweinydd y Ceidwadwyr yng Nghymru, Andrew RT Davies.
Y Ceidwadwyr oedd yr unig rai a allai sicrhau economi cryf, meddai Boris Johnson.
Llywodraeth hunanfodlon
Roedd Cymru wedi cael 17 mlynedd o “lywodraeth hunanfodlon”, meddai.
“O siarad fel maer Llundain, mae yna rannau o’r wlad fel Cymru, ble mae’r Blaid Lafur yn credu fod ganddyn nhw hawl dwyfol i reoli.
“Mae angen dangos iddyn nhw eu bod yn hollol anghywir, ac dwi’n meddwl fod gyfle gwych i ennill yng Nghymru.”