Leanne Wood yn lansio'r maniffesto (Gareth Llewelyn/Plaid Cymru/PA)
Mae iechyd wedi dod i’r blaen yn etholiadau’r Cynulliad wrth i Blaid Cymru gyhuddo Llafur o ddweud “celwydd” tros addewidion y Blaid ar iechyd.

Fe gododd y dadlau ar ôl i arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood, ddweud mai maniffesto Plaid Cymru – a gafodd ei lansio ddoe – yw’r “rhaglen fwya’ uchelgeisiol hyd yn hyn ar gyfer llywodraeth”.

Fe fynnodd y blaid y bydden nhw’n gwella’r economi, iechyd ac addysg yng Nghymru wrth lansio’u polisïau diweddaraf, gan gynnwys cyflogi 1,000 o ddoctoriaid a 5,000 o nyrsys ychwanegol.

Ond mae’r Blaid Lafur eisoes wedi eu cyhuddo o fod eisiau torri £1.5biliwn o gyllideb iechyd Cymru erbyn 2021, rhywbeth mae Plaid Cymru wedi mynnu sydd yn “gelwydd”.

Profion canser cynt

Mae addewidion iechyd Plaid Cymru – y maniffesto cynta’ i’w gyhoeddi – yn cynnwys gwarant y byddai cleifion yn cael prawf a diagnosis o fewn 28 diwrnod os oedden nhw’n amau fod ganddyn nhw ganser.

Fe fydden nhw hefyd yn ail-drefnu gweinyddiaeth y Gwasnaeth Iechyd gan ddod ag iechyd a gwasanaethau cymdeithasol ynghyd, rhoi gwasanaethau lleol o dan ofal cyrff rhanbarthol newydd a chreu corff newydd cenedlaethol i redeg yr ysbytai mawr.

Mae rhai o’r addewidion eraill yn cynnwys:

  • Cyflwyno polisi ffioedd myfyrwyr newydd, a fyddai’n ffafrio’r rheiny oedd yn dychwelyd i Gymru i weithio, petaen nhw’n ffurfio llywodraeth ar ôl yr etholiad.
  • Rhoi cynnydd cyflog o 10% i athrawon oedd yn dysgu sgiliau newydd.
  • Darpariaeth gofal meithrin rhad ac am ddim.
  • Creu 50,000 o brentisiaethau ychwanegol.
  • Cyflwyno cerdyn cenedlaethol fyddai’n caniatáu i bawb dros 60 oed deithio am ddim ar drafnidiaeth gyhoeddus, yn ogystal â chael gwared â thollau ar Bont Hafren “i ddinasyddion Cymreig”.

Mesur yr economi

Mynnodd Leanne Wood, sydd hefyd eisiau gweld perfformiad economi Cymru yn cael ei fesur yn fwy trwyadl, bod y ffigyrau yn y maniffesto yn gwneud synnwyr.

“Mae cyfrifoldeb yn ganolog i’n rhaglen ar gyfer llywodraeth,” meddai arweinydd y blaid.

“Gyda chynllun dros Gymru sydd wedi cael ei brisio’n llawn a’i wirio’n annibynnol, rydyn ni’n hyderus mai’r maniffesto hwn yw’r bennod gyntaf mewn cyfnod o lywodraethu gwell ar ein cenedl.”

Ychwanegodd cyfarwyddwr polisi’r blaid Adam Price, sydd yn gobeithio ennill sedd Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, fod Llafur wedi “rhedeg allan o syniadau” ar ôl 17 mlynedd o lywodraeth ac y byddai bod yn wrthblaid “yn gwneud lles iddyn nhw”.

Ffrae dros iechyd

Doedd dim croeso i gynlluniau Plaid Cymru gan y pleidiau eraill fodd bynnag, gyda Llafur yn honni fod yr arbedion roedden nhw’n addo eu gwneud yn mynd i olygu torri’r gyllideb iechyd.

“Fe fyddai cynlluniau i dynnu £1.5bn allan o’r Gwasanaeth Iechyd yn tanseilio’r buddsoddiad y mae Llafur Cymru wedi’i wneud dros y pum mlynedd ddiwethaf,” meddai’r dirprwy weinidog iechyd Vaughan Gething.

Ychwanegodd llefarydd ar ran y Ceidwadwyr fod gan “Leanne Wood a’i thîm ddyfodol disglair o’u blaenau mewn ysgrifennu ffuglen” gan ddweud bod y maniffesto yn llawn “addewidion ffals”.

Wfftio hynny wnaeth Plaid Cymru fodd bynnag, gan ddweud bod honiadau Llafur am eu cynlluniau iechyd yn “gelwydd noeth” ac y byddai’r gyllideb iechyd £925m yn fwy erbyn 2021 petaen nhw’n llywodraethu.