Mae’r c
Un o ddelweddau cyhoeddusrwydd Liberty House (o wefan y cwmni)
wmni sydd wedi dangos diddordeb cyhoeddus mewn prynu gweithfeydd dur Tata yng Nghymru wedi dweud y byddan nhw’n creu cynllun busnes manwl pan ddaw manylion am y broses werthu.

Ond mae Cadeirydd Gweithredol Grŵp Liberty House wedi dweud y byddai sefydlu morlyn neu lagŵn ynni ym Mae Abertawe yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr i’r cynllun.

Wrth i Ysgrifennydd Busnes Llywodraeth Prydain fynd i India heddiw i drafod gyda Tata, mae Sanjeev Gupta wedi cadarnhau mai’r bwriad yn y pen draw fyddai cael ffwrneisi newydd gwahanol yn y gwaith mwya’ ym Mhort Talbot, gan ystyried cau’r hen ffwrneisi chwyth.

Ailgylchu yn ganolog

Yn lle mewnforio deunyddiau crai, fe fyddai Liberty’n canolbwyntio ar ailgylchu dur o wledydd Prydain, meddai Sanjeev Gupta mewn cyfweliad ar Radio Wales.

Fe gadarnhaodd y byddai Liberty eisiau prynu’r gweithfeydd eraill yn Shotton a Throstre ond mai’r her fawr fyddai troi Port Talbot yn broffidiol.

Dim ond ar ôl cael y manylion y bydden nhw’n gallu dadansoddi a phenderfynu a oedd y dasg o fewn eu gallu.

Ynni rhad ‘yn hanfodol’

Ond fe bwysleisiodd fod cael ffynonellau ynni rhad yn allweddol – hynny’n cynnwys y morlyn ym Mae Abertawe.

gan Liberty ran yn y cynllun ond mae Llywodraeth Prydain yn cael eu cyhuddo o lusgo’u traed tros roi caniatâd.

Fe fyddai hefyd eisiau cael caniatâd i droi gwaith pwer y cwmni yng Nghasnewydd i weithio ar losgi biomás … neu fod Llywodraeth Prydain yn dileu y doll garbon ar ynni.

Peidio â dibynnu ar fewnforio

Hanfod syniad Liberty yw fod angen peidio â dibynnu ar fewnforio deunyddiau crai.

Mewn gwledydd eraill, roedd gan gystadleuwyr gweithfeydd Cymru eu ffynonellau eu hunain o ddefnyddiau crai, meddai Sanjeev Gupta, a hynny’n rhoi mantais anferth iddyn nhw o ran costau.

Y bwriad fyddai defnyddio deunyddiau ailgylchu, ac mae hynny’n gofyn am ffwrneisi trydan yn hytrach na ffwrneisi chwyth traddodiadol.

Fe fyddai Liberty’n parhau i weithio’r ffwrneisi traddodiadol i ddechrau, meddai Liberty, ond fe fyddai angen ystyried eu dyfodol wedyn.

Ar hyn o bryd, meddai Sanjeev Gupta, doedd e ddim yn gweld angen i dorri’n sylweddol ar swyddi.