Mark Drakeford - cronfa ar gyfer pob afiechyd (Llun - Cynulliad)
Mae pleidiau Cymru wedi bod yn cystadlu tros arian i dalu am gyffuriau newydd, drud, wrth i Lafur gadarnhau y bydden nhw’n sefydlu cronfa gwerth £80 miliwn pe baen nhw’n llywodraeth eto.
Mae hynny’n debyg i addewid ym maniffesto Plaid Cymru ddoe – am gronfa o £50nmiliwn – ond yn wahanol i addewid y Ceidwadwyr Cymreig i sefydlu cronfa o £100 miliwn yn benodol ar gyfer canser.
Y bore yma, fe ddywedodd y Gweinidog Iechyd, Mark Drakeford, fod y syniad o gronfa ar gyfer cyffuriau canser yn unig yn annheg ac anghywir tra byddai cronfa Llafur yn talu am gyffuriau newydd, drud, ar gyfer pob math o glefydau.
Doedd cronfeydd Llafur a Phlaid Cymru ddim yn union yr un peth a byddai rhaid i bobol ddewis rhyngddyn nhw, meddai ar Radio Wales.
Beirniadu
Mae’r Llywodraeth Lafur wedi cael eu beirniadu am wrthod â sefydlu cronfa ar gyfer cyffuriau canser ond, yn ôl Mark Drakeford, mae cronfa o’r fath wedi methu yn Lloegr.
Roedd addewid y Ceidwadwyr yn enghraifft arall, meddai, o edrych beth oedd yn digwydd yn Lloegr a gwneud yr un peth yma.
Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi addo cronfa ar gyfer technolegau newydd ym maes iechyd.