Mae dwy ferch yn eu harddegau wedi eu cael yn euog o lofruddio dynes 39 oed yn ei chartref ei hun.
Cafodd Angela Wrightson, 39 oed, ei darganfod yn farw yn ei chartref yn Hartlepool, Durham gyda mwy na 100 o anafiadau ym mis Rhagfyr 2014.
Roedd y merched, na ellir eu henwi am resymau cyfreithiol, yn 13 a 14 oed ar y pryd.
‘Alcohol a sigarennau’
Yn Llys y Goron Leeds heddiw, clywodd y rheithgor fod y merched, sydd bellach yn 15 oed, wedi ymosod ar y ddynes 39 oed mewn 12 lleoliad gwahanol o gwmpas yr ystafell ac wedi para pum awr.
Clywodd y llys fod y merched wedi ymweld â chartref Angela Wrightson ar sawl achlysur.
Roedd y ddynes 39 oed yn alcoholig, a byddai’n prynu alcohol a sigarennau i’r merched.
Ar noson ei llofruddiaeth, deallodd y rheithgor fod y merched wedi bod yn yfed cyn ymweld â thŷ Angela Wrightson, gydag un ohonyn nhw wedi cymryd cyffuriau presgripsiwn yn gynharach yn y dydd hefyd.
‘Estynedig a chreulon’
Clywodd y llys eu bod wedi defnyddio amryw o arfau i gyflawni’r ymosodiad “estynedig a chreulon”, gan gynnwys bwrdd coffi, set deledu ac argraffydd cyfrifiadur.
Cafodd y merched eu dyfarnu’n euog, ac fe fyddan nhw’n cael eu dedfrydu ddydd Iau.